Y Goeden Eirin

Lleoliad

Mae’r adeilad mewn man tawel, ond hygyrch dros ben, gyda rhyw ugain erw o dir o’i gwmpas. Ceir golygfeydd amrywiol o’i ffenestri – aruthredd Eryri yn gefnlen, ac i’r de-orllewin mynyddoedd yr Eifl, a’r môr ac aber Menai i’r gorllewin. Mae’n gyfleus dros ben, gyda thref y cofis o fewn cyrraedd mewn rhyw ddeng munud yn y car, a Phorthmadog a Phwllheli ryw ugain munud i’r cyfeiriad arall. Ceir bysiau’n mynd heibio i geg y lôn yn gyson hefyd.

Dyma un o froydd mwyaf llengar Cymru – gyda chartrefi Kate Roberts, R Williams Parry, T H Parry-Williams, Thomas Parry, heb sôn am John Gwilym Jones ei hun, yn y cyffiniau. Yn fwy diweddar, dyma hefyd lle y treuliodd y nofelydd Eirug Wyn ei flynyddoedd olaf. Mae holl gymeriad unigryw a phrydferthwch dihafal yr ardal y tu draw i'r Eifl i gyfeiriad Aberdaron ar gael i’r rhai a fyn fynd ar grwydr i’r fan honno. I’r gogledd mae Ynys Môn, Bangor a’r arfordir hyd Landudno o fewn cyrraedd rhwydd. Mae cyfaredd y Mabinogi yn y tir, a chyfoeth y diwylliant Cymraeg ar gael i’w archwilio gan y chwilfrydig.