Y Goeden Eirin

Hygyrchedd

  1. Y meysydd awyr agosaf yw Lerpwl a Manceinion, ond ceir maes awyr ar gyfer awyrennau bychain yng Nghaernarfon.
  2. Y gorsafoedd trenau agosaf yw Bangor a Phorthmadog. Gallwn hebrwng ymwelwyr o’r orsaf os dymunant ddod heb gar.
  3. Mae digonedd o le i barcio yn Y Goeden Eirin, ac mae modd mynd â’r car o fewn canllath i'r prif ddrws.
  4. Mae un gris yn arwain at ddrysau Cwt Môr a Chwt Mynydd. Yn anffodus, mae’r fynedfa i’r ddwy uned hyn yn rhy gyfyng ar gyfer cadair olwyn. Mae’r ystafelloedd en suite ar yr un gwastad â’r llofftydd.
  5. Rhaid dringo grisiau i’r ystafell ddwbl orau, ond mae’r baddondy en suite ar yr un gwastad â’r llofft.
  6. Mae dau ris o’r ardd i’r ystafell fwyta. Lleolir baddondy’r ystafell fwyta ar yr un gwastad, ond mae’n rhy gyfyng ar gyfer cadair olwyn.
  7. Gellir darparu bwydlen mewn print bras os ceir rhybudd ymlaen llaw.