Y Goeden Eirin

Pam Y Goeden Eirin?

Fel beudy fferm yr Hendre, doedd dim enw ar yr adeilad, wrth gwrs, ond roedd coeden eirin yn tyfu yn yr ardd, ac atgoffodd hynny ni am y ffaith fod cyfrol o storïau byrion gan John Gwilym Jones, y llenor o’r Groeslon, yn dwyn y teitl Y Goeden Eirin, a bellach mae fersiwn Saesneg ar gael, sef The Plum Tree. Roedd y llenor yn fyw ar y pryd, ac yn dipyn o arwr, felly penderfynasom ddefnyddio teitl ei gyfrol fel enw ar ein cartref ni. Bellach mae pedair coeden eirin yn tyfu yma. I gadarnhau’r cysylltiad, rhoesom gomisiwn i’r arlunydd Syr Kyffin Williams beintio portread olew o’r awdur, ac mae hwnnw’n hongian yn yr ystafell fwyta erbyn hyn.