Sut i gyrraedd
O gyfeiriad Porthmadog: Trowch oddi ar ffordd osgoi Llanllyfni a Phenygroes (yr A499) wrth gylchfan y Groeslon, a throi i’r chwith wrth Dafarn Pennionyn. Ar ôl mynd heibio i Fodurdy Dolydd ar y dde, trowch i’r fynedfa gyntaf ar y chwith. Mae’r Goeden Eirin y tu ôl i ffermdy’r Hendre.
O gyfeiriad Caernarfon: Ar ôl mynd trwy bentref y Bontnewydd, trowch i’r chwith wrth y gylchfan gyntaf gan ddilyn arwydd Dolydd ar y chwith. Mae’r Goeden Eirin ar y dde ymhen rhyw hanner milltir, ychydig lathenni cyn cyrraedd Modurdy Dolydd ar y chwith.
Map: cliciwch yma
|