Y Goeden Eirin
English

Newyddion

  • Cafodd John Rowlands ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a chaiff yr hawl i ddefnyddio'r llythrennau FLSW ar ol ei enw o hyn ymlaen. Mae'r Gymdeithas hon yn cyfateb yng Nghymru i'r Academi Brydeinig neu'r Gymdeithas Frenhinol yn Lloegr.
  • Ymddangosodd manylion am Y Goeden Eirin (gyda lluniau) ar y wefan www.earthtimes.org
  • Fe’n henwebwyd ar gyfer gwefan Karen Brown, sy’n cynhyrchu arweinlyfrau i deithwyr ar hyd a lled y byd. Gw. www.karenbrown.com
  • Fel y gwelir oddi wrth y tudalen ‘Croeso!’ dyfarnwyd pum seren inni gan Croeso Cymru. Wrth grynhoi, dywedodd yr arolygydd yn ei adroddiad: ‘Mae Y Goeden Eirin wedi ei ddodrefnu mewn modd unigryw sy’n adlewyrchu’r diwylliant a’r celfyddydau yng Nghymru yn ogystal â threftadaeth leol a chenedlaethol.’
  • Cawsom ein cymeradwyo gan y wefan Food lovers’ Britain (www.foodloversbritain.com).
  • Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi prynu car Toyota Prius yn ddiweddar. Mae’n gar modur cymysgryw sy’n rhedeg ar betrol a thrydan, ac felly’n lleihau’n hôl troed carbon.
  • Mae’n bwthyn hunan-ddarpar ar y traeth ym Mhontllyfni yn cael ei hysbysebu ar wefan Alastair Sawday: www.special-escapes.co.uk  Teipiwch ‘Carmel’ neu ‘Gwynedd’ yn y blwch ‘Search’.
  • Clywsom ein bod ar Restr Hir Gwobrau Twristiaeth Gyfrifol Gwyliau Virgin 2009. Trefnir y gwobrau hyn gan responsibletravel.com mewn cydweithrediad â’r Daily Telegraph, Geographical Magazine, BBC World News, World Travel Market a Virgin Holidays. Fe’n henwebwyd ni yng nghategori Gwestai Bach (50 ystafell neu lai). Mae’r cystadlaethau hyn yn rhai bydeang, a thipyn o syndod oedd cael ein dewis ar y Rhestr Hir. Ni ddisgwyliwn fynd gam ymhellach!
  • Mae cofnod amdanom yn y Rough Guide to Wales (2009) a hefyd yn y Lonely Planet Great Britain (2009). (Gweler ‘O’r Wasg’.)
  • Mae’r gyfrol Alastair Sawday’s Green Europe (2009) bellach wedi ymddangos. (Gweler ‘O’r Wasg’.)
  • Ceir cofnod amdanom ar y wefan www.organicholidays.co.uk a byddwn yn ymddangos yn eu llyfr yn fuan. Mae’r un peth yn wir am www.charmingsmallhotels.co.uk
  • Mae modd gweld fideo o’r Goeden Eirin ar y we erbyn hyn. Ewch i wefan www.tourismtv.co.uk a chwilio am Y Goeden Eirin yn adran Gogledd Cymru. Cofiwch glicio ar ‘Cymraeg’ i gael y fersiwn priodol.
  • Mae cofnod amdanom bellach ar wefan Eco Hotels of the World (www.ecohotelsoftheworld.com), ac mae’r cwmni wedi dyfarnu’r radd uchaf o bum seren inni. Addawyd y byddwn yn cael ein cynnwys yn eu cyfrol argraffedig nesaf hefyd.
  • Cyhoeddwyd erthygl ar Y Goeden Eirin yng nghylchgrawn Croeso Cymru, Ansawdd Cymru/Quality Wales, gan gynnwys nifer o luniau. Gweler dyfyniadau yn yr adran ‘O’r Wasg’. Gellir gweld yr erthygl gyflawn a’r lluniau ar wefan Croeso Cymru, mewn Cymraeg a Saesneg: www.wales.gov.uk/tourism
  • Clywsom y byddwn yn cael ein cynnwys mewn cyfrol a olygir gan David Hutter ac a gyhoeddir gan Wasg Quarto, Llundain yn 2009. Teitl y gyfrol fydd 1001 Escapes You Must Experience Before You Die, a bydd yn cynnwys lleoedd ym mhedwar ban byd (ac nid llefydd sy’n cynnig llety a bwyd yn unig).
  • Mae’r llyfr coch enwog wedi’n cynnwys yng nghyfrol 2009 – ond does gennym ddim hawl i enwi’r llyfr ar ein gwefan! Cofiwch am y dyn bach boliog.
  • Pleser a braint yn ddiweddar oedd ennill un o Wobrau Twristiaeth Eryri Werdd. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ym Mhlas Tan-y-bwlch ym Mai 2008.
  • Rydym bellach wedi ymuno â’r mudiad Slow Food, gan ein bod yn rhannu’r un egwyddorion.
  • Dyfarnodd Alastair Sawday ddwy o’u baneri moesegol inni.
  • Gwahoddwyd ni i ymuno gyda gwefan 'Wales in Style', ac rydym yn falch o fod ymhlith y lleoedd moethus a dethol sydd ar y wefan honno. Erbyn hyn daeth y gyfrol argraffedig Wales in Style (gol. Siomon Wright) o Wasg Designate, a gellir ei phrynu yn y siopau am £14.99.
  • Dyfarnwyd Safon y Ddraig Werdd inni yn ddiweddar, wedi achrediad manwl gan Rwydwaith Arena.
  • Cawsom y fraint yn ddiweddar o groesawu’r nofelydd o Albania, Fatos Kongoli, yma. Trefnwyd taith ar ei gyfer i lansio cyfieithiad Saesneg o’i nofel, The Loser (cyhoeddir gan Seren), a bu’n annerch cynulleidfaoedd yn Llundain, Rhydychen a Bangor. Gwestai i Ysgol y Gymraeg ydoedd ym Mhrifysgol Bangor, a daeth tyrfa dda i wrando arno ef a’i ddau gyfieithydd Canadaidd yn cyflwyno’r nofel. Trefnodd Ysgol y Gymraeg ginio iddo yn Y Goeden Eirin, a chawsom y fraint o’i letya ef a’i wraig a’i ddau gyfieithydd.
  • Mae’r Good Hotel Guide wedi dyfarnu Gwobr César inni. Rydym yn ystyried hynny’n gryn fraint. Dim ond deg o’r gwobrau hyn a ddyfernir trwy Brydain gyfan bob blwyddyn, a chânt eu galw’n ‘Oscars y diwydiant lletygarwch’. Cyflwynwyd y gwobrau mewn parti yn Llundain ar ddechrau Hydref.
  • Cawsom ein dewis ar gyfer y Good Hotel Guide 2008 a lawnsiwyd yn Llundain ar ddechrau Hydref. Roedd hyn yn dipyn o syndod, gan nad yw'r Goeden Eirin yn westy yn yr ystyr arferol. Mae’n debyg i arolygydd fod yma yn aros, heb inni wybod hynny, oherwydd mae’r arolygiadau i gyd yn rhai gan bobl anhysbys. Mae’r Good Hotel Guide yn un o’r ychydig arweinlyfrau cwbl annibynnol a diduedd. Caiff ei olygu gan Adam Raphael a Desmond Balmer.
  • Buom ar bedair rhestr fer yn 2007: Gwobrau Busnes a Chynaliadwyedd Cymru (trefnwyd gan Rwydwaith Arena), Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol (trefnwyd gan Croeso Cymru), Gwobrau Busnes Gwynedd a Gwobrau Menter a Busnes. Er nad enillasom yr un o’r gwobrau hyn, roedd yn fraint dod mor agos at y brig.
  • Ymysg ein hymwelwyr mwyaf nodedig yn 2007 yr oedd y llenor a’r beirniad bydenwog Ngugi Wa Thiong’o. Traddododd ddarlith dan nawdd Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor, a daeth ef ac aelodau staff yr Adran i’r Goeden Eirin am ginio, a chysgodd yntau dan nenbren ein Cwt Môr, wedi’i gyfareddu gan y doreth o lyfrau Cymraeg ar y silffoedd. Brodor o Kenya yw Ngugi, ac y mae’n enwog am ei ddramâu, ei nofelau a’i feirniadaeth ôl-drefedigaethol. Bu’n gweithredu’n wleidyddol, fe’i herlidiwyd ac fe’i carcharwyd, a bellach y mae’n alltud yn UDA, ac yn Athro ym Mhrifysgol California.
  • Ymysg y cymdeithasau sydd wedi bod draw am bryd o fwyd llenyddol y mae Clwb Darllen Caernarfon. Cawsom y fraint o groesawu’r Athro Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, a rhoddodd yntau sgwrs ddifyr am ei hunangofiant, Bywyd Bach.

Mwy o ddyfyniadau o’n Llyfr Ymwelwyr:

‘Noson wrth ein bodd – y cwmni, y wledd a’r gerddoriaeth. Beth all fod yn well na hyn?’ Wil a Lis Davies

‘Hafan hynod gyfforddus rhwng dau ddiwrnod o waith yn yr ardal. Croeso bendigedig a gwledd o frecwast. Mae “Chez Rowlands” yn cystadlu’n frwd â “Chez Dudley”! Diolch am y croeso – a’r silffoedd llyfrau.’ Androw Bennett, Llanarthne

‘Bwyd blasus da. Swper ymddeoliad haeddiannol i Gwenda.’ Margaret, Elen, Anita a Gwenda

‘Croeso ac awyrgylch arbennig iawn. Bwyd rhagorol. Lle gwell i ddathlu pen-blwydd?’ Susan a Hywel, Caergybi

‘Croeso cynnes Cymraeg cartrefol a di-ffws. Brecwast i’r brenin! Byddaf yn cenhadu ar eich rhan.’ Siôn Jobbins, Aberystwyth

‘Noson o ddiddanwch pur – y bwyd a’r croeso yn ardderchog iawn. Llawer iawn o ddiolch i chi’ch dau am gynhesrwydd y cwmni a’r awyrgylch. Dathliad 21 oed bendigedig i Elen.’ Elen, Nia a Dewi Powell, Nanmor a Chricieth

‘Cartref a chroeso dymunol dros ben … Roedd y bwyd yn fendigedig a gobeithiaf ddod yn ôl.’ Dafydd Cadog