Perchnogion
Daw Eluned o Dregarth ger Bethesda, ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen y cafodd ei haddysg uwchradd. Mae ganddi gysylltiadau cryf hefyd â’r Groeslon a Phen-y-groes. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio Daearyddiaeth gan ennill gradd Baglor yn y Gwyddorau. Wedi hynny bu’n dysgu yn Ysgol Botwnnog, yn ddarlithydd ac uwchddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, ac yn athrawes yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth. Treuliodd gyfnodau byrrach mewn swyddi amrywiol eraill, ac enillodd dystysgrif Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Morgannwg. Bu’n arolygydd ysgolion, ac yn arholydd gyda CBAC yn ogystal â chyda byrddau arholi yn Lloegr. Y mae’n aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a chyfieithodd nifer o lyfrau a thoreth o ddogfennau o natur dechnegol.
Mae diddordebau Eluned yn cynnwys teithio a choginio. Er iddi fod ar gyrsiau byrion gyda chogyddion megis John Tovey ym Miller Howe yn Windermere, ni chafodd hyfforddiant proffesiynol. Flynyddoedd yn ôl enillodd wobr y Sunday Times fel Cogydd y Flwyddyn (Cymru, De-orllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel), a chyhoeddwyd ryseitiau o’i heiddo mewn cyfrol a ddeilliodd o’r gystadleuaeth honno. Ymddangosodd sawl gwaith mewn rhaglenni coginio ar y teledu. Ar ddechrau’r wythdegau gwnaeth enw iddi’i hun gyda bwyty'r Goeden Eirin. Hi oedd awdur Tai Bwyta Cymru a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa. Ei huchelgais ar un adeg oedd bod yn bensaer, ond er na wireddwyd mo’r freuddwyd honno, rhoes ei stamp unigryw ar ei chartref blaenorol, Dôl Bebin yn Rhydypennau ger Aberystwyth, ac yn ddiweddarach ar Y Goeden Eirin ei hun. Mae’n hoff iawn hefyd o gasglu gwaith arlunwyr, o Ceri Richards i Kyffin Williams, o David Jones i Paula Rego.
Mae hi a’i phriod yn rhieni i Huw Llwyd, Wiliam Dyfed a Sioned Puw ac yn daid a nain i Harri.
Daw John o Drawsfynydd, ac aeth i Ysgol Gynradd Bronaber ac Ysgol Sir Ffestiniog cyn mynd i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Ar ôl ennill BA aeth ati i ymchwilio i waith Dafydd ap Gwilym ar gyfer ei MA, ac yna ymlaen i Rydychen i astudio gwaith Beirdd yr Uchelwyr ar gyfer ei D Phil. Wedi hynny bu’n darlithio yn Abertawe, Coleg y Drindod Caerfyrddin (lle y cyfarfu ag Eluned), Llanbedr-pont-Steffan ac Aberystwyth, lle yr oedd yn Athro yn Adran y Gymraeg. Ar ei ymddeoliad, mudodd ef ac Eluned yn ôl i’r Goeden Eirin. Bu’n dysgu’n achlysurol ym Mhrifysgol Cymru Bangor, lle y mae’n Athro er Anrhydedd. Fe’i gwnaed yn Gymrawd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, fe’i hurddwyd i’r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd, ac y mae bellach yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru.
Cyhoeddodd John saith o nofelau, gan gynnwys Ienctid yw ’Mhechod, Arch ym Mhrâg a Tician Tician (a oedd yn un o ‘Lyfrau’r Flwyddyn’ Cyngor Celfyddydau Cymru). Ymysg ei weithiau beirniadol y mae’r cyfrolau ar John Gwilym Jones a Saunders Lewis yn y gyfres ‘Llên y Llenor’, y gyfrol ar T Rowland Hughes yn y gyfres ‘Writers of Wales’, Cnoi Cil ar Lenyddiaeth, Ysgrifau ar y Nofel (a oedd ar restr fer ‘Llyfr y Flwyddyn’ Cyngor Celfyddydau Cymru), Profiles (ar y cyd â Glyn Jones), a golygodd Dafydd ap Gwilym a Chanu Serch yr Oesoedd Canol, Sglefrio ar Eiriau yn ogystal â The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (ar y cyd â Menna Elfyn). Bu’n olygydd Llais Llyfrau/Books From Wales ac yn gyd-olygydd Taliesin (gyda Gerwyn Wiliams). Ef yw golygydd cyffredinol y gyfres flaengar, ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’ a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru; pan gyhoeddir yr ugeinfed gyfrol yn 2008, bwriada drosglwyddo’r olygyddiaeth i’r Athro Gerwyn Wiliams. Bu’n annerch cymdeithasau llenyddol ledled Cymru, yn ogystal â thraddodi darlithoedd mewn cynadleddau ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Harvard.
Ymhlith diddordebau John y mae cerddoriaeth, tai bwyta a theithio. Y mae’n hoff o chwarae’r piano, a derbyniodd hyfforddiant rhan-amser gan Kendall Taylor yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, gan fynd ati i ennill pum diploma, gan gynnwys LRAM ac ARCM. Mae’n cyfrannu ysgrifau ar fwyd i’r cylchgrawn Barn, ac ymwelodd â thai bwyta ledled Prydain, Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel fel arolygydd ar gyfer un o gyfeirlyfrau mwyaf blaenllaw Prydain. Yr oedd ymysg y tîm o arolygwyr a gynhyrchodd y gyfrol Bwyta Allan yng Nghymru 2004 dan arweiniad Colin Pressdee. |