Pethau i'w Gwneud
Lleolwyd Y Goeden Eirin mewn ardal sydd ag atyniadau di-ben-draw, boed law neu hindda. Mae harddwch naturiol
yr ardal tu hwnt i'r Eifl i gyfeiriad Aberdaron, Eryri ac Ynys Môn yn anhygoel, ac yn rhoi cyfle dihysbydd i ymwelwyr gerdded, dringo neu feicio, gwylio bywyd gwyllt, pysgota, merlota, nofio, chwarae golff, neu gant a mil o bethau eraill.
Rydym yn barod iawn i gynghori gwesteion lle i fynd a sut i gyrraedd yno. Gwyddom am lwybrau cyhoeddus a lonydd beicio, a gallwn ddarparu mapiau ac arweinlyfrau pwrpasol.
Wrth gwrs, mae yma haen ar ben haen o hanes a thraddodiad llenyddol cyfoethog. Gallwch ymweldâ â chartref Parry-Williams yn Rhyd-ddu, neu ganolfan treftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan, amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, canolfan hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr neu’r Lôn Goed yn Eifionydd. Mae pentref Eidalaidd Portmeirion yn atyniad poblogaidd iawn, ac y mae cestyll Harlech, Cricieth, Caernarfon, Biwmaris, Conwy a Dolwyddelan o fewn cyrraedd. Gallwch ymweld â dau o blastai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef Plas Newydd ar Ynys Môn a Chastell Penrhyn rhwng Bangor a Bethesda. Mae lluniau Tunnicliffe i’w gweld yn Oriel Môn, a bydd adran wedi’i neilltuo i waith Kyffin Williams yn agor yno yn 2008. Mae harddwch ysblennydd Gerddi Bodnant yn denu hefyd. Ceir canolfan gelfyddydol newydd yng Nghaernarfon, sef Galeri.
Bydd cyngherddau Bryn Terfel yn dod i'r Faenol
ddiwedd Awst bob blwyddyn, a daw’r Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r cyffiniau yn eu tro. Ceir amgueddfa lechi ym Mlaenau Ffestiniog a Llanberis, ac yn Llanberis hefyd y mae’r Mynydd Gwefru. Neu beth am bicio draw i Ddulyn ar y fferi o Gaergybi? … Byddai modd sgrifennu’n hirfaith am bethau o’r fath. |