Y Goeden Eirin

Ffynnu'n Wyrdd

Yn nyddiau globaleiddio a chynhesu bydeang, teimlwn y dylem wneud ein gorau i barchu’r amgylchedd, ac y mae hynny’n cynnwys yr amgylchedd diwylliannol yn ogystal â’r amgylchedd naturiol. Mae gennym baneli haul, mae’r waliau a’r nenfydau wedi’u hinsiwleiddio’n dda, defnyddir bylbiau egni isel a switsys sy’n troi’r golau i lawr, defnyddir papur toiled wedi’i ailgylchu, mae ein defnyddiau glanhau yn rhai ‘gwyrdd’, fe ailgylchir neu fe gompostir popeth posibl, a cheisir osgoi gadael i'r tap ddiferu'n ddiangen.

Credwn mewn prynu bwyd lleol os yn bosibl, gyda chryn dipyn ohono’n organig, a daw rhai llysiau, perlysiau a ffrwythau o’n gardd ni ein hunain yn y tymor.

Sylweddolwn fod gennym le i wella, ond gobeithio ein bod yn cychwyn ar y trywydd iawn.