Cyffredinol
Mae’n pwylais drwodd a thro ar Gymreictod, ar y naturiol a’r cynhenid, ar chwaeth dda a chymeriad unigryw. Nid oes ôl cynllunwyr tai proffesiynol ar gyfyl y lle, gan mai’r perchnogion eu hunain sydd wedi rhoi eu stamp arno. Y mae mor wahanol i westy neu fwyty serennog ag y gellid dychmygu. Gall apelio at bobl sy’n dymuno tawelwch, neu garwyr bywyd gwyllt, cerddwyr, beicwyr, heb sôn am bobl gyffredin fel chi a ni. Bydd yn sicr o apelio at bobl sy’n hoff o lenyddiaeth, hanes, cerddoriaeth ac arlunio. Mae croeso i bawb, waeth beth fo’u cenedl, eu hiaith, crefydd, gwleidyddiaeth, rhywioldeb, ayyb. Fodd bynnag, cyfyngedig yw’r cyfleusterau ar gyfer yr anabl, ond fe wnawn ein gorau i roi help llaw i unrhyw un musgrell. Ni chaniateir ysmygu yn unman.
|