Y Stafell Fwyta
Ni charem fod mor ffurfiol â disgrifio’r Goeden Eirin fel bwyty yn yr ystyr arferol. Mae dod yma am bryd o fwyd yn debycach i fynd am dro i gartref rhywun a chael croeso personol gan y teulu. Does dim lle ond i ryw ddwsin i bymtheg o bobl ar yr un pryd, ac mae’r awyrgylch yn glòs ac agos-atoch.
Mae’r stafell fwyta ei hun gyda llawr llechi, wal gerrig a distiau. Ceir portread Kyffin Williams o John Gwilym Jones ar y wal, ynghyd â lluniau amrywiol eraill gan arlunwyr Cymreig fel Gwilym Pritchard a Peter Prendergast. Mae yna hen ddresel dderw Gymreig ac mae’r byrddau’n rhai derw plaen. Ceir ychydig o seddau meddal i ymlacio gyda llymaid cyn neu ar ôl bwyd. Mae piano fawr Bechstein yn yr ystafell hefyd.
Rydym yn credu’n gryf mewn cyflwyno bwydydd cartre ffres, a does prin ddim dewis ar y fwydlen. Wrth gwrs, os oes gennych unrhyw anghenion arbennig, gallwch eu trafod ar y ffôn, ac fe wnawn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer. Ein bwriad yw cynnig cynnyrch lleol pan fo hynny’n bosib, peth ohono’n organig a pheth o’n gardd ni ein hunain,ond nid yw hynny’n golygu bod arddull y coginio’n gyson draddodiadol. Credwn mewn arbrofi, a chyfuno syniadau – boed o Wlad Thai, Morocco, India neu ble bynnag. Eto Cymreig ac Ewropeaidd fydd craidd y coginio. Caiff bwyd ei baratoi’n ffres gartref a’i goginio yn neu ar yr Aga.
Nid oes gennym amserau agor penodol, ond y tebyg yw mai yn yr hwyr y byddwn yn darparu prydau gan amlaf. Rhaid ffonio ymlaen llaw, gan nad ydym yn gallu derbyn ymwelwyr ar sgawt.
|