Diodydd
Mae’r Goeden Eirin yn fwyty trwyddedig ac mae gennym ddewis cynnil o wirodydd, cwrw potel a diodydd ysgafn. Ceir rhestr win fer sy’n cynnig gwinoedd gwyn, rhosliw a choch am brisiau rhesymol. Rydym yn prynu gwin yn bennaf gan gwmni Tanners yn y Trallwng.
Dylai gwinoedd bob dydd fod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o achlysuron, ond yn naturiol bydd ambell achlysur arbennig yn gofyn am Siampaen go dda. Rydym yn ymhyfrydu bod gennym ddetholiad o winoedd cain o chateaux megis Latour, Margaux, Calon-Ségur ac yn y blaen.
|