Bwydlenni Enghreifftiol
Dyma enghreifftiau o fwydlenni nodweddiadol, ond os oes gennych unrhyw anghenion arbennig, mae croeso ichi eu trafod ymlaen llaw
Brecwast:
Sudd oren wedi’i wasgu’n ffres
***
Uwd neu rawnffrwyth pinc neu muesli gyda compote ffrwythau
***
Wy wedi’i sgramblo gydag eog wedi’i gochi
- neu
Brecwast traddodiadol: cig moch wedi’i drin yn lleol, selsig gan gigydd lleol, pwdin gwaed, aren oen, wy dodwy allan, tomato, madarch
- neu
Ciperau Ynys Manaw
- neu
Wyau yn ôl eich dymuniad: wedi’u berwi, mewn omled o’ch dewis chi, neu wedi’u potsio ar dôst
***
Tôst gyda chyffeithiau cartref
***
Te (traddodiadol neu berlysieuol) neu goffi masnach deg
Pryd min nos:
Cawl cartref pannas a sunsur gyda bara cartref
- neu
Gorbwmpen wedi’i stwffio gyda pherdys a llysiau
***
Draenog y môr gwyllt wedi’i stemio gyda phigoglys, roced, tomatos a thatws
- neu
Lwyn o borc mewn prosciutto gyda couscous pob
***
Cawsiau fferm Cymreig (e.e., Gorau Glas, Perl Wen, Perl Las, Llanboidy, etc.) gyda bisgedi cartref a grawnwin
***
Pwdin haf
- neu
Fricyll sglein a phwdin reis Gwlad Thai gyda chnau coco a lemwnwellt
***
Coffi neu de masnach deg gyda melysfwyd cartref
|