Y Goeden Eirin

Llety

Yr ydym yn darparu llety moethus ar gyfer chwech. Ceir ystafell ddwbl eang yn y prif adeilad, gyda theledu a chadeiriau esmwyth, ac yn arwain ohoni ceir ystafell wisgo fechan, ac ystafell ymolchi gyda baddon a chawod, gyda theiliau fired earth ar y waliau a’r lloriau. Mae’r cyfleuseterau’n ddiguro.

Rydym wedi adnewyddu tai allan yn ddwy uned breswyl llawn cymeriad a chwaeth. Ceir lloriau llechi gyda gwres danynt, a llechi sydd ar loriau a waliau’r ystafelloedd ymolchi hefyd, gyda chawodydd yn hytrach na baddonau. Gelwir yr undedau hyn yn Gwt Môr a Chwt Mynydd. Dau wely sengl sydd yng Nghwt Môr, ac mae’r silffoedd yn llawn o lyfrau amrywiol. Gwely dwbwl sydd yng Nghwt Mynydd, ac yno hefyd ceir hen dresel Gymreig. Ceir teledu yn y ddau gwt, a gallwch baratoi coffi cafetière neu de llysieuol ar eich cyfer eich hun. Caiff gwesteion eu croesawu gyda carafe o sieri, ffrwythau ffres a bisgedi neu deisennau cri. Yn yr haf, gellir bwyta allan wrth y bwrdd llechen yn yr ardd, ond nid oes ond ychydig gamau ar draws y lawnt i’r ystafell fwyta.