Bwthyn glan môr
Ryw ychydig filltiroedd i ffwrdd o’r Goeden Eirin, mae gennym fwthyn bach ar lan y môr ym mhentref Pontllyfni (oddi ar yr A499). Mae mewn lleoliad cyfareddol, gyda’r ardd yn agor allan i’r traeth, ac Ynys Llanddwyn gyferbyn dros y bae. Mae golygfeydd hudol o’r machlud i’w cael o ffenest y lolfa.
Bwthyn bach twt yw hwn, ond ceir un ystafell ddwbwl, un gyda dau wely sengl (a basn molchi), ac un arall gydag un gwely sengl – felly mae lle i bump gysgu yma. Ceir ystafell ymolchi gyda chawod uwchben y baddon. Mae bwrdd bwyta derw yn y gegin gefn, ac mae unedau modern yno, ynghyd â rhewgell ac oergell, popty trydan, popty ping, peiriant golchi llestri, a’r cyfarpar y disgwylir ei gael fel arfer mewn cegin hunan-ddarpar.
Os na fynnwch goginio’ch bwyd eich hun, gallwch ddod draw i’r Goeden Eirin am bryd, dim ond trwy drefnu ymlaen llaw. Mae’r lolfa’n gartrefol, gyda lle tân cerrig, ond mae tanau trydan ar gael i gynhesu’r bwthyn yn ogystal.
|