Argaeledd
Mae’r Goeden Eirin ar gael fwy neu lai trwy’r flwyddyn, ond ni allwn dderbyn ymwelwyr ar sgawt, a dylid archebu ymlaen llaw. Rydym fel arfer ar gau dros y Nadolig. Mae’n bwthyn glan môr ar gael trwy’r flwyddyn, gan gynnwys y Nadolig, ond rhaid archebu mewn da bryd.
Mae pryd nos ar gael trwy drefniant ymlaen llaw. Gallwn ei ddarparu ar gyfer preswylwyr Y Goeden Eirin neu fwthyn Carmel yn ogystal â phobl nad ydynt yn aros gyda ni.
Amodau archebu: Bydd archebion yn cael eu cadarnhau ar ôl derbyn blaendal o 50% na ellir ei dalu’n ôl. Os dileir yr archeb o fewn saith diwrnod i’r dyddiad cyrraedd, bydd gennym yr hawl i godi 100% os na allwn ailosod yr ystafell neu’r bwthyn. Fe’ch cynghorir i drefnu polisi yswiriant yn erbyn canslo.
Gellir gwneud ymholiadau trwy e-bost, gan ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein, ond os yw’n well gennych, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol ar y ffôn, neu trwy neges e-bost fwy personol, neu trwy lythyr. Mae croeso ichi ffonio i gael gwybodaeth ychwanegol.
|